Twrog
Gwedd
Twrog | |
---|---|
![]() Sant Twrog; llun o ffenestr liw yn Eglwys Sant Twrog, Maentwrog, Gwynedd. | |
Ganwyd | Teyrnas Gwynedd ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Sant o'r chweched neu'r 7g oedd Twrog. Yn ôl yr achau roedd yn fab i Ithel Hael.
Hanes a thraddodiad[golygu | golygu cod]
Dywedir iddo sefydlu eglwys yn Llandwrog (ger Caernarfon, Gwynedd). Twrog yw nawddsant Maentwrog ym Meirionnydd (de Gwynedd) hefyd. Yn ogystal mae'n nawddsant Bodwrog ym Môn.[1]
Ym Maentwrog ceir carreg anferth yng ngongl yr eglwys, sy'n wahanol i'r cerrig eraill ynddi, ac a elwir wrth yr enw Maen Twrog. Yn ôl traddodiad taflodd y sant y maen mawr o ben y Moelwynion.[1]
![](http://chped.net/https/upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/9/93/Bodwrog_Church_-_geograph.org.uk_-_152480.jpg/250px-Bodwrog_Church_-_geograph.org.uk_-_152480.jpg)
Ei wylmabsant yw 26 Mehefin (hefyd 15 Awst).