Traeth y Newry
![]() | |
Math | traeth ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Cymuned Caergybi ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.3173°N 4.634°W ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | |
AS/au |
|
![]() | |
Traeth cerrig mân a chreigiau ar arfordir Ynys Mon, Cymru, yw Traeth y Newry. Fe'i lleolir yng Nghaergybi.
Cyfleusterau[golygu | golygu cod]
Mae cae chwarae yno, llwybr beicio, gardd y synhwyrau, tŷ bach ac amgueddfa forwrol. O'r cae chwarae ceir cipolwg dros yr harbwr. Mae mynediad i'r traeth, ar hyd llwybr tarmac, am ddim.
Datblygu[golygu | golygu cod]
Yn 2017 cafwyd cais cynllunio amlinellol gan cwmni Conygar Stena i ddatblygu'r ardal, a sefydlwyd Ymgyrch Traeth y Newry (Newry Beach Holyhead Action Group) i'w wrthwynebu. Roedd y cais yn cynnwys marina gyda 500 angorfa, 380 o fflatiau a thai tref, gwesty a thros 43, 000 tr sg o swyddfeydd a chyfleusterau hamdden ac adwerthu. Barn yr ymgyrchwyr yw y byddai'r datblygiad yn dinistrio'r arfordir. Mae'r ardal sydd dan sylw ar yr arfordir o'r Amgueddfa Forwrol ar draeth y Newry yn holl ffordd at ddechrau'r Morglawdd ger Pwynt Soldiwrs.[1]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ newrybeachholyhead.co.uk; adalwyd 30 Mehefin 2017.