Thomas Parry (marsiandïwr)
Thomas Parry | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 1768 ![]() Powys ![]() |
Bu farw | 24 Awst 1824 ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | person busnes ![]() |
![](http://chped.net/https/upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/c/c0/Memorial_to_Thomas_Parry%2C_St._George%27s_Cathedral%2C_Madras.jpg/240px-Memorial_to_Thomas_Parry%2C_St._George%27s_Cathedral%2C_Madras.jpg)
![](http://chped.net/https/upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/5/5b/EID_Parry_headquarters.jpg/240px-EID_Parry_headquarters.jpg)
Marsiandïwr Cymreig oedd Thomas Parry (1768 – 1824), sydd â lle pwysig yn hanes economi Tamil Nadu yn India.
Ganed Thomas Parry yn drydydd fab Edward Parry ac Anne Vaughan, o Blas Leighton, ger Y Trallwng ym Maldwyn (Powys). Dilynodd yrfa fel marsiandïwr. Pan sylweddolodd y botensial i fusnes a marsiandïaeth yn India, aeth Parry i ddinas Madras (Chennai), De India, ar ddiwedd y 1780au. Yno sefydlodd fusnes bancio a nwyddau ar 17 Gorffennaf 1788.[1] Bychan oedd y busnes yn y dechrau, ond tyfu a wnaeth a daeth 'Parry' yn enw cyfarwydd yn Chennai. Heddiw mae'r cwmni a sefydlodd yn dal i fynd, wrth yr enw (Cwmni) EID Parry. Dyma'r cwmni (sy'n dal i redeg) ail hynaf yn India heddiw.[2]
Enwir un o ardaloedd busnes canolog mwyaf Chennai ar ôl Thomas Parry, sef Parry's Corner (Cornel Parry). Lleolir pencadlys cwmni EID Parry yno o hyd.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ "ENTERPRISE IN CHENNAI - DOWN THE AGES". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-07-26. Cyrchwyd 2009-07-22.
- ↑ "S. Muthia: "The house that Parry built"". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-11-28. Cyrchwyd 2009-07-22.
Dolenni allanol[golygu | golygu cod]
- (Saesneg) S. Muthia: "The house that Parry built" Archifwyd 2009-11-28 yn y Peiriant Wayback., erthygl yn The Hindu, 11 Rhagfyr 2002.