Testament of Youth
Gwedd
Enghraifft o'r canlynol | gwaith ysgrifenedig ![]() |
---|---|
Awdur | Vera Brittain ![]() |
Cyhoeddwr | Victor Gollancz, Macmillan Publishers ![]() |
Gwlad | y Deyrnas Unedig ![]() |
Iaith | Saesneg ![]() |
Dyddiad cyhoeddi | 1933 ![]() |
Genre | hunangofiant ![]() |
Testament of Youth yw'r rhan gyntaf yng nghofiant Vera Brittain. Fe'i cyhoeddwyd ym 1933. Mae cofiant Brittain yn parhau gyda Testament of Experience, a gyhoeddwyd ym 1957. Rhwng y ddau lyfr hyn daw Testament of Friendship, sydd yn ei hanfod yn gofiant i gydweithiwr agos Brittain a'i ffrind, y nofelydd Winifred Holtby.[1]
Mae'r llyfr yn ymwneud yn bennaf â gwasanaeth Vera fel nyrs yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a'i rhamant â Roland Leighton, a laddwyd ym 1915.
Addaswyd y llyfr ar gyfer teledu ym 1979, gyda Cheryl Campbell fel Vera Brittain. Yn 2014 gwnaed ffilm, yn serennu’r actores o Gymru, Alexandra Roach, fel Winifred Holtby, a Taron Egerton fel Edward, brawd Vera Brittain.[2]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ Mark Bostridge; Paul Berry (25 February 2016). "Preface". Vera Brittain: A Life (yn Saesneg). Little, Brown Book Group. ISBN 978-0-349-00854-7.
- ↑ Ge, Linda (13 Chwefror 2014). "Taron Egerton, Colin Morgan and Alexandra Roach Join Alicia Vikander in 'Testament of Youth'". upandcomers.net (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-10-17. Cyrchwyd 16 Mawrth 2014.