Shaun Edwards
Shaun Edwards | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 17 Hydref 1966 ![]() Wigan ![]() |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | chwaraewr rygbi'r gynghrair, hyfforddwr rygbi'r undeb ![]() |
Taldra | 173 centimetr ![]() |
Pwysau | 74 cilogram ![]() |
Gwobr/au | OBE ![]() |
Gwefan | https://shaunedwardsrugby.com ![]() |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Bradford Bulls, London Broncos, Wigan Warriors, London Broncos, Great Britain national rugby league team, England national rugby league team ![]() |
Gwlad chwaraeon | Lloegr, y Deyrnas Unedig, Iwerddon, Lloegr ![]() |
Cyn-chwaraewr rygbi’r gynghrair o Sais sy’n awr yn hyfforddwr rygbi’r undeb yw Shaun Edwards (ganed 18 Hydref 1966). Mae’n hyfforddwr amddiffynnol rhan amser i dîm rygbi'r undeb Cenedlaethol Cymru.
Yn enedigol o Wigan, bu’n chwarae i dîm Wigan rhwng 1983 a 1996. Enillodd wyth pencampwriaeth gyda Wigan, a’r gwpan naw gwaith, y ddau yn record. Chwaraeodd dros Loegr yng Nghwpan y Byd yn 1992 a 1995, ac enillodd 36 cap dros dîm rygbi’r gynghrair Prydain.
Gadawodd Wigan i chwarae am dymor i’r London Broncos, ac am gyfnod byr i Bradford Bulls. Yn 2001, ymunodd â staff tîm rygbi’r undeb London Wasps fel hyfforddwr y cefnwyr, gan ddod yn brif hyfforddwr yn 2005 wedi i Warren Gatland ddychwelyd i Seland Newydd. Enillodd Wasps y bencampwriaeth dair gwaith yn y cyfnod yma.
Pan apwyntiwyd Warren Gatland yn hyfforddwr Cymru cyn dechrau Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2008, apwyntiwyd Edwards yn hyfforddwr amddiffynnol rhan-amser, gan gadw ei swydd gyda'r Wasps. Iddo ef y rhoddir llawer o’r clod am y gwelliant mawr ym mherfformiad amddiffynnol Cymru yn y bencampwriaeth yn 2008; dim ond dwy gais a sgoriwyd yn eu herbyn yn y pum gêm.