Neidio i'r cynnwys

Seren y Gogledd

Oddi ar Wicipedia
Seren y Gogledd
Enghraifft o'r canlynolF-type star, triple star system, classical Cepheid variable, pole star, navigational star Edit this on Wikidata
MàsEdit this on Wikidata
Label brodorolGwiazda Polarna Edit this on Wikidata
Enw brodorolGwiazda Polarna Edit this on Wikidata
CytserUrsa Minor Edit this on Wikidata
Pellter o'r Ddaear432 ±30 blwyddyn golau Edit this on Wikidata
Paralacs (π)7.54 ±0.11 Edit this on Wikidata
Cyflymder rheiddiol−20.81 ±4.9 cilometr yr eiliad Edit this on Wikidata
Goleuedd2,200 Edit this on Wikidata
Radiws30 Edit this on Wikidata
Tymheredd6,206 Kelvin Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Polaris, neu Seren y Gogledd, mewn llun dynnwyd drwy delesgop.

Seren o'r ail faintioli yw Seren y Gogledd neu Seren y Pegwn (Lladin a Saesneg: Polaris), sydd yn ymddangos yn agos i begwn wybrennol gogleddol awyr y nos.

Yn ogystal â Seren y Gogledd a Seren y Pegwn, ceir enwau megis y Seren Ogledd, Seren Begwn, Seren Pegwn y Gogledd, Seren Begynol, Seren Begynol y Gogledd a Seren y Morwyr.[1] Mae'r enw Lladin Polaris yn dod o Stella Polaris (sef seren y pegwn). Enw arall ydy Alpha Ursae Minoris (neu α UMi), am mai hi yw'r seren ddisgleiriaf yng nghytser Ursa Minor, yr Arth Fach.[2][3][4]

Lleoliad yn awyr y nos[golygu | golygu cod]

Lleoliad Polaris yn awyr yr nos, a sut i'w ganfod gyda'r Pwyntyddion.

Mae Polaris yn hawdd i'w ganfod yn rhan ogleddol y wybren drwy ddefnyddio y ddwy seren ar ochr orllewinol yr Aradr, Dubhe a Merak, sydd yn cael eu galw'n Pwyntyddion[5]. Mae'r ddwy seren yn pwyntio yn syth at Polaris, sydd tua phum gwaith y pellter rhwng y sêr. Er bod Polaris yn un o'r sêr mwyaf adnabyddus yn yr awyr nos, nid ydyw'n un o'r disgleiriaf: mae tua 50 seren yn ymddangos yn ddisgleiriach na Polaris.

Mae Polaris islaw'r gorwel pan y'i gwelir o hemisffer y de, ac felly'n amhosibl i'w weld.

Polaris a Phegwn Wybrennol y Gogledd[golygu | golygu cod]

Trwy hap a damwain mae Polaris yn ymddangos yn agos i begwn wybrennol gogleddol. Ar hyn o bryd mae'r seren yn llai na 0.8 gradd o'r pegwn, ond mae'r pellter yn newid yn araf iawn o ganlyniad i symudiad echelin y Ddaear achoswyd gan effaith disgyrchiant y Lleuad ar y Ddaear. Mae agosrwydd Polaris i'r pegwn wedi creu lle pwysig i'r seren mewn morwriaeth, a Seren y Morwyr oedd un hen enw arno.

Oherwydd ei agosrwydd i'r pegwn wybrennol gogleddol, dyw Polaris ddim yn symud llawer pan fo'r Ddaear yn troi yn ddyddiol ar ei hechelin. Mae'r seren yn ymddangos fel petai'n symud mewn cylch bach o amgylch y pegwn yn unig.

Mae'n bosib gweld Polaris bron o unrhyw fan yn hemisffer y Gogledd. Mae'r seren i'w gweld bron uwchben i arsyllwr yn sefyll ar Begwn y Gogledd. I berson yn agos i gyhydedd y Ddaear mae'r seren bron ar y gorwel gogleddol, weithiau uwch y gorwel, weithiau yn machlud yn ystod ei chylch bach dyddiol o amgylch y pegwn wybrennol. O unrhyw fan arall yn hemisffer y gogleddol, mae uchder Polaris o'r gorwel bron yn hafal i'r lledred lleol. Felly mae mesur pellter Polaris uwch y gorwel yn gallu rhoi'r lledred lleol.

Does dim seren ddisglair cyffelyb i Bolaris yn agos i'r pegwn wybrennol deheuol. Y seren agosaf i begwn y de sy'n weladwy â llygaid noeth ydy Sigma Octantis (σ Oct), seren o faintioli 5.5 sydd 1.1 gradd o'r begwn.

Natur y seren[golygu | golygu cod]

Er bod un seren i'w gweld gan y llygad noeth, mae Seren y Gogledd mewn gwirionedd yn gyfundrefn o bum seren o leiaf yn cylchdroi o amgylch ei gilydd. Mae'r seren ddisgleiriaf o'r rhain, Alpha Ursae Minoris Aa, yn llawer iawn ddisgleiriach na'r lleill. Seren orgawr yw'r seren hon, sydd yn seren newidiol o'r fath Cepheid, ond mae'r newidiadau mewn disgleirdeb yn eithaf bach. Mae'r gyfundrefn yn disgleirio ar gyfartaledd o faintioli 1.98 yn olau gweladwy.

Mae gyfundrefn sêr Polaris tua 434 o flynyddoedd goleuni o'r Ddaear.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  seren. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 16 Mehefin 2024.
  2. Evans, J. Silas (1923). Seryddiaeth a Seryddwyr. Caerdydd: William Lewis, Argraffwyr, Cyf. Tudalennau 37, 51–53 a 186.
  3. Mills, Caradoc (1914). Y Bydoedd Uwchben: Llawlyfr ar Seryddwyr. Bangor: P. Jones-Roberts. Tudalennau 163–164.
  4. Burnham, Robert (1978). Burnham's Celestial Handbook. 3. Efrog Newydd: Dover Publications, Inc. ISBN 0-486-23673-0. Tudalennau 2009–2025. (Yn Saesneg.)
  5.  pwyntydd. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 16 Mehefin 2024.
Eginyn erthygl sydd uchod am seryddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.