Sant Ninian
Gwedd
Sant Ninian | |
---|---|
Ganwyd | 360 Yr Alban |
Bu farw | 432 Swydd Wigtown |
Galwedigaeth | offeiriad, esgob Catholig, protobishop |
Swydd | Anglo-Saxon bishop of Whithorn |
Dydd gŵyl | 16 Medi |
Sant ac un o arloeswyr Cristionogaeth yn yr Alban oedd Sant Ninian, hefyd Nynia, Ringan neu Trinnean, (c. 360 - 432).
Ef yw'r esgob cyntaf y ceir cyfeiriad ato'n ymweld a'r Alban. Dywedir iddo gael ei eni yn Rheged yn yr Hen Ogledd, a theithio i ddinas Rhufain i astudio. Yno gwnaed ef yn esgob gan y Pab Siricius, a rhoddwyd y dasg o efengylu'r Pictiaid iddo. Dywedir iddo sefydlu canolfan yn Whithorn, Galloway. Dywedir iddo sefydlu'r Candida Casa yma yn 397.
Ceir cyfeiriad byr ato gan Beda, ac ysgrifennwyd Buchedd Sant Ninian gan Ailred o Rievaulx yn y 12g. Enwyd llawer o leoedd yn yr Alban ar ei ôl. Nid yw Parc Ninian yng Nghaerdydd wedi ei enwi ar ei ôl ef yn uniongyrchol, ond ar ôl yr Arglwydd Ninian Critchton-Stuart.
Llefydd a enwyd ar ôl Ninian[golygu | golygu cod]
Rhestr Wicidata:
# | Eglwys neu Gymuned | Delwedd | Cyfesurynnau | Lleoliad | Wicidata |
---|---|---|---|---|---|
1 | 514-516 Pollokshaws Road, St Ninian's Episcopal Church | 55°50′27″N 4°15′58″W / 55.8408°N 4.2662°W | Dinas Glasgow | Q17813600 | |
2 | Church of St Ninian | 54°29′10″N 0°36′54″W / 54.4861°N 0.615074°W | Whitby | Q17540763 | |
3 | Confraternity of St Ninian | Q117468751 | |||
4 | Eglwys Gadeiriol Sant Ninian | 45°37′14″N 61°59′37″W / 45.6206°N 61.9935°W | Antigonish | Q26907430 | |
5 | Eglwys Sant Ninian | 54°09′54″N 4°29′00″W / 54.1649°N 4.4832°W | Douglas | Q55888269 | |
6 | Hen Eglwys y Plwyf Stirling, Kirk Wynd, St Ninian's | 56°06′09″N 3°56′16″W / 56.1026°N 3.93786°W | Stirling | Q17572135 | |
7 | Ninekirks | 54°39′46″N 2°41′05″W / 54.6628°N 2.6847°W | Brougham | Q7038479 |
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.