Saethyddiaeth
![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | math o chwaraeon, disgyblaeth chwaraeon ![]() |
---|---|
Math | chwaraeon, shooting, chwaraeon olympaidd ![]() |
![]() |
![](http://chped.net/https/upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/b/ba/ArcheryGermanyEarly1980s-2.jpg/220px-ArcheryGermanyEarly1980s-2.jpg)
![](http://chped.net/https/upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/0/01/Bundesarchiv_Bild_135-S-18-07-16%2C_Tibetexpedition%2C_Volksfest%2C_Bogensch%C3%BCtze.jpg/220px-Bundesarchiv_Bild_135-S-18-07-16%2C_Tibetexpedition%2C_Volksfest%2C_Bogensch%C3%BCtze.jpg)
Mae saethyddiaeth yn un o gampau'r byd chwaraeon lle defnyddir bwa saeth, mae hefyd yn ddisgyblaeth ac yn grefft sy'n cael ei ymarfer yn yr oriau hamdden. Defnyddir y bwa i saethu'r saeth tuag at darged, a hynny, fel arfer fel rhan o gystadleuaeth; mae saethyddiaeth yn un o gampau y Gemau Olympaidd Modern. "Saethydd" yw'r term am berson sy'n ymwneud â saethyddiaeth.
Hela a lladd oedd pwrpas y bwa saeth yn wreiddiol, ond cafwyd hefyd gystadleuthau mor bell yn ôl â'r Oesoedd Canol ac ni sefydlwyd cymdeithas i hybu a rhoi trefn ar y ddisgyblaeth hon tan 1676 pan ffurfiwyd The Company of Scottish Archers ac ni chyrhaeddodd y grefft yr UDA tan 1844 pan sefydlwyd The Grand National Archery Society yn Efrog Newydd.
Daw'r gair "saethyddiaeth" o'r taflegryn hwnnw a ddefnyddiwyd gan fodau dynol cynhanes: y saeth. Y Rhufeiniaid a fenthyciodd y gair i ni; Lladin: sagitta. Cofnodwyd y gair am y tro cyntaf yn y C13 yn Llyfr Iorwerth (LlI 93), "Saeth, fyr[dlyg]".[1] Benthyciad yw'r gair archery o'r Lladin 'arcus', sef bwa.
-
Saethydd yn Nwyrain Timor
Gweler hefyd[golygu | golygu cod]
- Saethu - gemau gyda gynnau ee saethu colomennod clai
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ Geiriadur Prifysgol Cymru Arlein (CPC); adalwyd 9 Awst 2016.