S. J. Perelman
S. J. Perelman | |
---|---|
Ganwyd | 1 Chwefror 1904 Brooklyn |
Bu farw | 17 Hydref 1979 Dinas Efrog Newydd |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | sgriptiwr, ysgrifennwr |
Gwobr/au | Gwobr yr Academi am Ysgrifennu Gorau, Sgript Addasedig |
Awdur digrif a sgriptiwr ffilm Americanaidd oedd Sidney Joseph Perelman (1 Chwefror 1904 – 17 Hydref 1979). Nodweddir ei waith gan chwarae ar eiriau, parodi, nihiliaeth gomig, a dychan pob dydd.
Ganed yn Brooklyn, Efrog Newydd, a symudodd y teulu i Providence, Rhode Island, pan oedd yn fachgen. Astudiodd ym Mhrifysgol Brown, ac yno golygodd gylchgrawn hiwmor y myfyrwyr, ond ni derbyniodd ei radd. Priododd â Laura West ym 1929, a bu'r ddau ohonynt yn cydweithio ar sawl sgript ffilm. Cyfrannodd Perelman at sgriptiau ar gyfer ffilmiau cynnar y brodyr Marx, gan gynnwys Monkey Business (1931) a Horse Feathers (1932). Cyhoeddwyd ei ysgrifau ffraeth yn fynych gan gylchgrawn The New Yorker, a chesglir y rheiny a gweithiau eraill mewn cyfrolau megis Strictly from Hunger (1937), Westward Ha!, or, Around the World in Eighty Clichés (1948), a The Road to Miltown, or, Under the Spreading Atrophy (1957). Ym myd y theatr, cyfrannodd at y comedïau All Good Americans (1934) ac One Touch of Venus (1943). Perelman oedd cyd-enillydd Gwobr yr Academi am y sgript addasedig orau am iddo gydweithio ar Around the World in 80 Days (1956). Bu farw yn Efrog Newydd yn 75 oed.[1]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ (Saesneg) S.J. Perelman. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 3 Mai 2021.
- Genedigaethau 1904
- Marwolaethau 1979
- Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Brown
- Dramodwyr yr 20fed ganrif o'r Unol Daleithiau
- Dramodwyr Saesneg o'r Unol Daleithiau
- Llenorion digrif Saesneg o'r Unol Daleithiau
- Pobl a aned yn Brooklyn
- Pobl o Rhode Island
- Pobl fu farw yn Ninas Efrog Newydd
- Sgriptwyr ffilm o'r Unol Daleithiau
- Ysgrifwyr a thraethodwyr yr 20fed ganrif o'r Unol Daleithiau
- Ysgrifwyr a thraethodwyr Saesneg o'r Unol Daleithiau