Caewyd gorsaf reilffordd Cae Ras Cheltenham ym 1968; defnyddiwyd yn achlysurol rhwng 1971 a 1976, ac erbyn y 70au, defnyddiwyd y lein gyfan dim ond fel lein wyriad. Dechreuwyd codi traciau yng Ngorffennaf 1979'
[2]
Ffurfiwyd Cymdeithas Rheilffordd Swydd Gaerloyw Swydd Warwig ar 18 Awst 1976, yn gobeithio perswadio Rheilffyrdd Prydain i gadw'r lein ar agor. Daeth y gymdeithas yn ymddiriodolaeth ar 28 Hydref 1977, yn anelu at warchod y rheilffordd. Ym 1981, llogwyd rhan o iard Toddington i gadw cerbydau ac ailosodwyd traciau..
Rhoddwyd Gorchymyn Rheilffordd Ysgafn gan yr Adran Trafnidiaeth, yn caniatáu ailosod y cledrau rhwng Broadway a Cheltenham, a phrynwyd tir yr hen reilffordd a rhai o'r adeiladau sydd wedi goroesi ym 1984. Agorwyd y lein ar 22 Ebrill gan Nicholas Ridley a dechreuodd gwasanaeth ar 700 llath o drac[3].
Cyrhaeddodd y lein Didbrook ym 1985, Abaty Hayles ym 1986 a Winchcombe ym 1987. Ym 1990, ailagorwyd y lein hyd at Gretton; ym 1997 hyd at Gotherington, ac yn 2000, hyd at Gae Ras Cheltenham. Dechreuodd gwasanaeth i Cheltenham ar gyfer teithwyr yn 2003.
Ailosodwyd traciau o Toddington i'r gogledd, yn mynd at Broadway, yn 2005.[2]