Rheilffordd Amwythig i Gaer
![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | llinell rheilffordd ![]() |
---|---|
Rhan o | National Rail ![]() |
Perchennog | Network Rail ![]() |
Lled y cledrau | 1435 mm ![]() |
Gweithredwr | Avanti West Coast, Trafnidiaeth Cymru Trenau ![]() |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig ![]() |
Rhanbarth | Swydd Amwythig, Wrecsam, Gorllewin Swydd Gaer a Chaer, Swydd Amwythig, Swydd Gaer, Cymru ![]() |
Hyd | 135.8 cilometr ![]() |
![]() |
![](http://chped.net/https/upload.wikimedia.org/wikipedia/cy/9/9c/Cwa.png)
Rheilffordd Amwythig i Gaer (Saesneg: Shrewsbury to Chester Line), neu Rheilffordd Hafren-Dyfrdwy yw'r rheilffordd sy'n cysylltu Amwythig a Chaer.
Adeiladwyd y rheilffordd gan Cwmni Rheilffordd Amwythig & Caer rhwng 1846 a 1848.
Agorwyd y llinell o Gaer i Riwabon ar 4 Tachwedd 1846 - gyda gorsafoedd yn Saltney, Yr Orsedd, Gresffordd, Wrecsam, a Rhiwabon - ac o Riwabon i'r Amwythig ar 14 Hydref 1848, gyda gorsafoedd yng Nghefn, Llangollen Road (Arhosfa Whitehurst yn nes ymlaen), Y Waun, Preesgwyn (Weston Rhyn yn nes ymlaen), Gobowen, Whittington, Rednal, Baschurch a Leaton.
Ar un adeg roedd y llinell yn rhan o'r brif linell Rheilffordd y Great Western o Lundain (Paddington) i Benbedw (Woodside). Dim ond chwech o'r gorsafoedd sydd yn agor heddiw, sef: Caer, Wrecsam Cyffredinol, Rhiwabon, Y Waun, Gobowen, a'r Amwythig.
Heddiw mae trenau yn rhedeg ar dair linell;
- Birmingham (New Street) neu Amwythig a Chaer - Trafnidiaeth Cymru
- Caerdydd (Canolog) a Chaergybi - Trafnidiaeth Cymru
Yn Chwefror 2008, cyhoeddwyd gwasanaeth newydd Trenau Virgin o Lundain (Euston) i Wrecsam, trwy Chaer a Crewe, o Ragfyr 2008.