Place Vendôme, Paris
![](http://chped.net/https/upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/7/7a/Place_Vendome%2C_Paris_20_April_2011.jpg/400px-Place_Vendome%2C_Paris_20_April_2011.jpg)
Mae Place Vendôme, a adnabyddwyd yn gynharach fel Place Louis-le-Grand, a hefyd Place Internationale, yn sgwâr yn ardal (Arrondissement) 1af Paris, Ffrainc. Lleolir i'r gogledd o Erddi'r Tuileries ac i'r dwyrain o Eglwys y Fadlen. Dyma fan cychwyn Rue de la Paix. Codwyd y Golofn Vendôme wreiddiol yng nghanol y sgwâr gan Napoleon I i goffau Brwydr Austerlitz; rhwygwyd hi i lawr ar 16 Mai 1871, yn ystod Comiwn Paris, ond fe'i hailgodwyd yn ddiweddarach, ac mae'n parhau i fod yn nodwedd amlwg ar y sgwâr heddiw.
Erbyn 2024, mae Place Vendôme yn llawn o westai drud fel y Ritz a siopau gemwaith.
Ffilmiwyd rhifyn o'r gyfres Netflix Lupin yn Place Vendôme.
![](http://chped.net/https/upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/9/93/M%C3%A8tre_Place_Vend%C3%B4me.jpg/220px-M%C3%A8tre_Place_Vend%C3%B4me.jpg)
Lleolir metr mewn marmor a archebwyd gan Convention nationale Ffrainc yma. Nod y metr oedd annog y defnydd o'r system fetrig newydd. O'r 16 metr o'r fath a luniwyd rhwng 1796 a 1799 ar gyfer llefydd prysuraf Paris, dim ond dau sydd i'w weld heddiw yn y brifddinas.
Pobl nodedig a fu'n byw yn Place Vendôme[golygu | golygu cod]
- Franz Anton Mesmer meddyg o'r Almaen
- Frédéric Chopin[1] cyfasoddwr, bu farw yn Place Vendôme.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ "Chopin plaque Place Vendome". www.thejewelleryeditor.com. Cyrchwyd 2024-02-20.