Phil Cooper
Phil Cooper | |
---|---|
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | digrifwr stand-yp |
Diddanwr a chomedïwr yw Phil Cooper sy'n perfformio yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Bywgraffiad[golygu | golygu cod]
Magwyd Phil Cooper yn Y Porth, Rhondda.[1] Mae ei gomedi yn trafod Cymru, ei fagwraeth yng Nghwm Rhondda a pherthnasau.
Gyrfa[golygu | golygu cod]
Mae Phil yn perfformio yn y Gymraeg a'r Saesneg ac wedi gwneud dau rediad llawn yng Ngŵyl Caeredin,[2] gan gynnwys One Phil Over The Cooper’s Nest yn Awst 2018. Mae hefyd wedi cyfrannu i sesiynau comedi Stand Up For Wales a drefnir gan grŵp Abertawe o Yes Cymru.
Teledu[golygu | golygu cod]
- Stand Yp - rhaglen 1 awr o gomedi ar S4C, 2017
- Gwerthu Allan (sioe i hyrwyddo comediwyr Cymraeg) - S4C
- Y lle, sioe ddiwylliant - S4C
Mae wedi ymddangos ar raglen Heno, Jonathan a rhagflas i'r gemau Chwech Gwlad ar BBC Wales.
Radio[golygu | golygu cod]
Mae Cooper wedi ymddangos ar radio yn y Gymraeg a'r Saesneg sawl gwaith gan gynnwys ar BBC Radio Cymru, BBC Radio Wales a BBC Radio 4
- Arthur Smiths 'Comedy Club' - BBC Radio 4 Extra [3]
- New Act Competition - BBC Radio 4
- Wynne Evans Show - BBC Radio Wales
- "The Jamie Owen Show" - BBC Radio Wales
Gwobrau[golygu | golygu cod]
Mae Phil Cooper wedi ennill sawl cystadleuaeth comedi a diddanu.[4]
- Enillydd - Stand Up Cider
- Enillydd - Frome's Funniest
- Rownd gyn-derfynol - So You Think You're Funny
- Rownd gyn-derfynol - BBC New Act
- Rownd gyn-derfynol - Welsh Unsigned Stand-up Award
- Ail - Bath New Act
Dolenni[golygu | golygu cod]
- Phil Cooper ar Facebook
- Phil Cooper ar Twitter
- Phil Cooper ar Youtube