Mynydd rhew
Gwedd
![](http://chped.net/https/upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/b/bf/Iceberg_at_Baffin_Bay.jpg/220px-Iceberg_at_Baffin_Bay.jpg)
Talp mawr o rew dŵr croyw sydd wedi torri'n rhydd o rewlif ac yn arnofio'n rhydd mewn dŵr agored yw mynydd rhew, a elwir hefyd yn fynydd iâ. Am fod dwysedd rhew pur oddeutu 920 kg/m³, o gymharu â 1025 kg/m³ am ddŵr hallt y môr, nid oes fel arfer ond degfed o gyfaint y mynydd rhew uwchben wyneb y dŵr.