Marguerite de Valois
Marguerite de Valois | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Marguerite de Valois ![]() 14 Mai 1553 ![]() Saint-Germain-en-Laye ![]() |
Bu farw | 27 Mawrth 1615 ![]() Paris ![]() |
Dinasyddiaeth | Ffrainc ![]() |
Galwedigaeth | perchennog salon, ysgrifennwr ![]() |
Swydd | royal consort, Queen Consort of France ![]() |
Tad | Harri II, brenin Ffrainc ![]() |
Mam | Catrin de Medici ![]() |
Priod | Harri IV, brenin Ffrainc ![]() |
Partner | Jacques de Harlay ![]() |
Llinach | House of Valois, House of Bourbon ![]() |
llofnod | |
![](http://chped.net/https/upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/4/4f/Margot_001.jpg/200px-Margot_001.jpg)
Merch Harri II, brenin Ffrainc a Catrin de Medici, a gwraig Henri de Navarre (Harri IV, brenin Ffrainc) oedd Marguerite de Valois, a elwir hefyd yn "La Reine Margot (14 Mai 1553 – 27 Mawrth 1615). Daeth yn frenhines Ffrainc ac yn llenores.[1]
Gwaith llenyddol[golygu | golygu cod]
Roedd Margot yn fardd ac yn epistolydd. Ei phrif waith yw ei Mémoires (Atgofion) sy'n cynnwys disgrifiadau bywiog a chofiadwy o rai o'r digwyddiadau hanesyddol y bu'n dyst iddynt, fel Cyflafan Gŵyl Sant Bartholomew, ynghyd â brasluniau mewn arddull ffres a thrawiadol o gymeriadau'r llys, yn arbennig y merched. Ei hysgrifennydd personol oedd y bardd François Maynard (1582-1646). Roedd hi ar delerau da â'r llenor Brantôme (c.1540-1614) hefyd, awdur y Recueil des dames a'r Dames Gallantes.
Ffuglen[golygu | golygu cod]
Ysgrifennodd Alexandre Dumas (père) y nofel ramantaidd La Reine Margot yn seiledig ar brofiadau Margot adeg Cyflafan Gŵyl Sant Bartholomew yn 1846.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ Charlotte Franken Haldane (1968). Queen of Hearts: Marguerite of Valois ('La Reine Margot') 1553-1615 (yn Saesneg). Constable. t. 3. ISBN 978-0-486-11894-9.
- Egin Ffrancod
- Beirdd Ffrangeg
- Beirdd Ffrengig
- Breninesau Ffrainc
- Dramodwyr Ffrangeg
- Dramodwyr Ffrengig
- Ffrancod yr 16eg ganrif
- Ffrancod yr 17eg ganrif
- Genedigaethau 1553
- Llenorion Ffrangeg
- Llenorion Ffrengig yr 16eg ganrif
- Llenorion Ffrengig yr 17g
- Marwolaethau 1615
- Merched yr 16eg ganrif
- Merched yr 17eg ganrif
- Pobl o Yvelines