Malwen
![](http://chped.net/https/upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/3/36/Helix_pomatia_%28Dourbes%29.jpg/250px-Helix_pomatia_%28Dourbes%29.jpg)
Anifail â chorff meddal sy'n byw ar dir sych neu mewn dŵr yw malwen. Bydd yn amddiffyn y corff drwy greu cragen galed (cogwrn) sydd ar ffurf troell. Mae gwananol fathau ohonynt, pob un yn perthyn i'r teulu Molwsg, o ddosbarth y gastropod.
Mae malwod yn gallu byw am tua 15-20 o flynyddoedd.
Mewn rhai gwledydd, bwytir falwod gan bobl. Er eu bod yn bwyta llysiau, maen nhw hefyd yn cael eu cadw fel anifeiliaid anwes.
Mae llawer o falwod yn bwyta planhigion yn unig, ond mae ychydig o'r rhywogaethau sy'n byw ar y tir, a llawer ohonynt sy'n byw yn y mor, yn bwyta anifeiliaid eraill.
Malwen fawr Affrica 'African giant snail' (Achatina achatina) yw'r rywogaeth fwyaf. Roedd yr anifail mwyaf a ddarganfyddwyd yn 39.3 centimetr o'i thrwyn i'w chynffon, a phwysodd 900 g.