Llyfr y Salmau
Gwedd
![](http://chped.net/https/upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/e/e3/FecampBibleFol238rDetInitBDavid.jpg/200px-FecampBibleFol238rDetInitBDavid.jpg)
Llyfr y Salmau (Hebraeg: תְהִלִּים Th'hilliym) yw 19eg llyfr yr Hen Destament yn y Beibl. Ynddo ceir 150 o salmau a briodolir yn ôl traddodiad i'r brenin Dafydd, ond sy'n waith sawl awdur yn ôl ysgolheigion diweddar. Cawsant eu cyfansoddi i'w canu i gyfeilaint offerynnau cerdd yn y deml yn Jeriwsalem. Heddiw maent yn dal i gael eu defnyddio mewn gwasanaethau crefyddol gan Gristnogion ac Iddewon mewn eglwysi a synagogau.