John Jones (Idris Fychan)
John Jones | |
---|---|
![]() | |
Ffugenw | Idris Fychan ![]() |
Ganwyd | 1825 ![]() Dolgellau ![]() |
Bu farw | 3 Tachwedd 1887 ![]() Manceinion ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | bardd, telynor, ysgrifennwr ![]() |
![](http://chped.net/https/upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/9/91/Dyma_ddarlun_o_fy_hunan_NLW3362730.jpg/250px-Dyma_ddarlun_o_fy_hunan_NLW3362730.jpg)
Telynor, bardd a llenor Cymraeg oedd John Jones (1825 - 3 Tachwedd 1887), a oedd yn fwy adnabyddus wrth ei enw barddol Idris Fychan. Ystyrid Idris yn un o ganwyr gyda'r tannau gorau ei ddydd. Roedd yn gyfaill agos i'r bardd Ceiriog.[1]
Bywgraffiad[golygu | golygu cod]
Ganed ef yn Nolgellau yn 1825. Roedd yn hannu o deulu Ellis Roberts (Eos Meirion) ac roedd ei fam yn gantores dda hefyd. Fel crydd y daeth i ennill ei fywoliaeth ond yn fuan daeth ei ddoniau fel telynor i'r amlwg a daeth yn adnabyddus fel 'Idris Fychan'. Symudodd i weithio yn Llundain ac wedyn i Fanceinion yn 1857.[1]
Yn Eisteddfod Rhuddlan, 1850, enillodd wobr am ei draethawd arobryn ar 'Canu gyda'r Delyn', ac yn Eisteddfod Caerlleon 1866 dyfarnwyd y wobr iddo am draethawd ar 'Hanes a Henafiaeth Canu gyda'r Delyn'. Roedd yn fardd eisteddfodol yn ogystal ac yn un o gyfeillion agosaf Ceiriog.[1]
Bu farw ar 3 Tachwedd 1887 a'i gladdu ym mynwent Ardwick, Manceinion.[1]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 Y Bywgraffiadur Cymreig ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Adalwyd 06.01.2015.