Isis
Gwedd
![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | duwdod yr Hen Aifft ![]() |
---|---|
Rhan o | mytholeg Eifftaidd ![]() |
![]() |
![](http://chped.net/https/upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/5/55/%C3%84gyptischer_Maler_um_1360_v._Chr._001.jpg/250px-%C3%84gyptischer_Maler_um_1360_v._Chr._001.jpg)
Duwies bwysicaf yr Hen Aifft oedd Isis (Ffurf Roeg ar yr enw Eiffteg Aset neu Eset), merch hynaf y duw Geb a'i gymar Nut. Tyfodd ei chwlt i fod yn ddylanwadol iawn yn yr Henfyd, gan ymledu i Roeg a Rhufain. Cred rhai fod crefydd gyfriniol Isis wedi dylanwadu'n fawr ar y Gristnogaeth gynnar, yn arbennig ar gwlt y Forwyn Fair. Roedd hi'n chwaer a chymar i'r duw Osiris a mam i'r duw Horus.