Neidio i'r cynnwys

Gallipoli

Oddi ar Wicipedia
Gallipoli
Mathgorynys Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirRhanbarth Marmara Edit this on Wikidata
GwladBaner Twrci Twrci
GerllawGulf of Saros Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau40.35°N 26.45°E Edit this on Wikidata
Map
Penrhyn Gallipoli
Erthygl am yr ardal yw hon. Am y ddinas o'r un enw gweler Gelibolu.

Penrhyn Gallipoli (Groeg: Καλλίπολις, Kallipolis, Twrceg: Gelibolu) yw'r enw modern am y penrhyn a elwid yn y cyfnod clasurol y Chersonesos Thraciaidd (Χερσόνησoς Θράκια). Mae'n gwahanu Môr Marmara a Bae Saros. Gelwir y ddinas fwyaf ar y penrhyn yn Gallipoli hefyd. Mae'n rhan o dalaith Çanakkale.

Defnyddiodd Alecsander Fawr y penrhyn fel man cychwyn ar gyfer ei ymgyrchoedd yn Asia yn 334 CC. Yn ddiweddarach, y penrhyn oedd y diriogaeth gyntaf i'r Ymerodraeth Otomanaidd ei gipio yn Ewrop, yn dilyn daeargryn mawr yn 1354.

Yn y Rhyfel Byd Cyntaf, bu Brwydr Gallipoli yma. Ceisiodd byddin yr Ymerodraeth Brydeinig, milwyr o Awstralia a Seland Newydd yn bennaf, gipio'r ardal yma yn Chwefror 1915, ond gorfododd y Twrciaid hwy i encilio yn Ionawr 1916. Gwnaeth y frwydr yma Mustafa Kemal Atatürk yn arwr cenedlaethol yn Nhwrci.