Francis Ormsby-Gore, 6ed Barwn Harlech
Gwedd
Francis Ormsby-Gore, 6ed Barwn Harlech | |
---|---|
Ganwyd | 13 Mawrth 1954 ![]() |
Bu farw | 1 Chwefror 2016 ![]() Talsarnau ![]() |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd ![]() |
Swydd | aelod o Dŷ'r Arglwyddi ![]() |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Geidwadol ![]() |
Tad | William David Ormsby-Gore ![]() |
Mam | Sylvia Thomas ![]() |
Priod | Amanda Harlech ![]() |
Plant | Jasset Ormsby-Gore, 7th Baron Harlech, Tallulah Harlech ![]() |
Gwleidydd oedd Francis David Ormsby-Gore, 6ed Arglwydd Harlech (13 Mawrth 1954 – 1 Chwefror 2016).[1] Yn Mai 2011, bu Lord Harlech a'i ferch mewn achos o yrru'n beryglus ym Mhenrhyndeudraeth a chafodd yr achos gryn sylw gan y cyfryngau.[2] Tan yn ddiweddar, roedd Ormsby-Gore yn byw ym Mrogyntyn ger Croesoswallt.
Dilynodd ei dad, David Ormsby-Gore, fel Barwn Harlech yn 1985. Roedd yn aelod Ceidwadol o Dy'r Arglwyddi cyn cael gwared ar yr arglwyddi etifeddol yn 1999.
Roedd yn briod gyda Amanda Jane Grieve rhwng 1986 a 1998, ac mae ganddynt fab a merch:[2]
- Jasset David Cody Ormsby-Gore - yn astudio ar hyn o bryd yn Central St Martins
- Tallulah Sylva Maria Ormsby-Gore - yn byw yn Llundain, astudiodd yn Academi Ffilm Efrog Newydd.
Teitlau Pendefigaeth/Bonheddig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: David Ormsby-Gore |
Barwn Harlech 1985–2016 |
Olynydd: Jasset Ormsby-Gore |
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ Yr Arglwydd Harlech wedi marw’n 61 oed , Golwg 360, 4 Chwefror 2016.
- ↑ 2.0 2.1 Kay, Richard. Curse of Harlechs hits again (en) , Mail Online, 17 Mawrth 2011. Cyrchwyd ar 4 Chwefror 2016.
![Baner Y Deyrnas Unedig](http://chped.net/https/upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/83/Flag_of_the_United_Kingdom_%283-5%29.svg/30px-Flag_of_the_United_Kingdom_%283-5%29.svg.png)
![Eicon person](http://chped.net/https/upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/c/c2/Crystal_Clear_app_Login_Manager_2.png/30px-Crystal_Clear_app_Login_Manager_2.png)