Ffont
Gwedd
![](http://chped.net/https/upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/0/00/Helvetica_Neue_typeface_weights.svg/220px-Helvetica_Neue_typeface_weights.svg.png)
Maint o deip yw ffont (lluosog: ffontiau) neu ffownt (lluosog: ffowntiau).[1] Ers y 1980au datblygodd y term yn sgil dyfodiad cyfrifiaduron a'r gallu i addasu nodweddion teipiau megis uchder, pwysau, a goleddf yn hawdd. Wrth i bobl gyffredin dod yn gyfarwydd â theipograffeg trwy deipiau cyfrifiadurol, heddiw defnyddir y gair "ffont" yn aml yn gyfystyr â'r termau teip, ffurfdeip neu wyneb.
Ceir dau brif fath o ffont, sef Serif a Sans-serif. Mae'r serif yn cyfeirio at lythrennau sydd wedi eu dylunio gyda 'troed' neu 'gynffon' yn y lythryren e.e. ar ddiwedd R, neu ar waelod A.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ Geiriadur yr Academi, [fount].