Eglwys Gadeiriol Rouen
![]() | |
Math | eglwys gadeiriol Gatholig ![]() |
---|---|
Enwyd ar ôl | dyrchafael Mair ![]() |
Agoriad swyddogol | 1876 ![]() |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Archepiscopal Complex of Rouen ![]() |
Lleoliad | Rouen ![]() |
Sir | Rouen ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 49.4402°N 1.095°E ![]() |
Hyd | 144 metr ![]() |
![]() | |
Arddull pensaernïol | pensaernïaeth Gothig ![]() |
Statws treftadaeth | monument historique classé, monument historique classé, monument historique classé, monument historique classé ![]() |
Cysegrwyd i | y Forwyn Fair ![]() |
Manylion | |
Esgobaeth | Archesgobaeth Rouen ![]() |
Eglwys gadeiriol Gatholig yn ninas Rouen, Normandi, yw Eglwys Gadeiriol Rouen (Ffrangeg: Cathédrale Notre-Dame de Rouen). Mae'n eglwys arddull Gothig wedi'i chysegru i'r Santes Fair; cychwynnwyd ei hadeiladu yn 1202.
Hanes[golygu | golygu cod]
Saif yr eglwys gadeiriol hon ar safle eglwys gynharach a sefydlwyd ar ddiwedd y 4g OC. Ymwelodd yr Ymherodr Siarlymaen a'r eglwys yn 769. Dinistriwyd yr eglwys honno gan y Llychlynwyr yn y 9g. Dechreuwyd y gwaith ar yr eglwys bresennol yn 1202 ond ni chafodd ei chwblhau'n derfynol tan 1880 pan ychwanegwyd tŵr bach ar ben y prif dŵr i'w wneud yr uchaf yn y byd am gyfnod byr. Dioddefodd rhannau o'r adeilad pan fomiwyd Rouen yn Ebrill 1944 yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Llenyddiaeth a chelf[golygu | golygu cod]
Cafodd y llenor Gustave Flaubert, a oedd yn frodor o Rouen, ei ysbrydoli gan y ffenestri gwydr lliw o Sant Julian a'r bas-relief o Salome, ac mae dwy o'r tair stori yn ei Trois contes yn seiliedig arnyn nhw. Ysgrifennodd Joris-Karl Huysmans La Cathédrale am yr eglwys gadeiriol, nofel wedi'i seilio ar astudiaeth fanwl o'r adeilad.
|