Neidio i'r cynnwys

Cynan Jones

Oddi ar Wicipedia
Cynan Jones
Ganwyd27 Chwefror 1975 Edit this on Wikidata
Aberaeron Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethnofelydd Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.cynanjones.com Edit this on Wikidata

Awdur o Gymro yw Cynan Jones (ganed 1975). Fe'i magwyd ger Aberaeron, Ceredigion, ac mae'n byw ac yn gweithio yng Ngheredigion.[1] Cyhoeddodd Jones ei nofel gyntaf, The Long Dry, yn 2006. Yn ddiweddarach, cyhoeddodd tair nofel rhwng 2011 a 2014. Mae ei waith wedi ei gyfieithu i ieithoedd eraill, ac mae ei straeon byrion wedi ymddangos mewn nifer o gasgliadau a chyhoeddiadau fel Granta a New Welsh Review. Darlledwyd ei stori A Glass of Cold Water ar BBC Radio 4 ym mis Mai 2014.[1][2]

Yn 2016, trodd ei law at sgriptio teledu gan ysgrifennu yr ail bennod yn nhrydedd cyfres Y Gwyll. Ym mis Hydref 2016, fe'i benodwyd yn Gymrawd Ysgrifennydd y Gronfa Lenyddol Frenhinol ym Mhrifysgol Aberystwyth.[3]

Gwobrau[golygu | golygu cod]

Dyfarnwyd gwobr Betty Trask i'w nofel gyntaf The Long Dry yn 2007.[4] Yn 2008, fe'i dewiswyd ar gyfer prosiect Scritture Giovani yng Ngŵyl y Gelli. Cafodd pennod o Y Dig, a gyhoeddwyd gyntaf yn Granta Magazine, ei ddewis ar gyfer rhestr fer gwobr Sunday Times EFG Private Bank Short Story yn 2013.[5] Enillodd ei nofel The Dig, wobr Jerwood Fiction Uncovered yn 2014 a daeth i'r brig yng Ngwobr Ffuglen Llyfr y Flwyddyn yng Nghymru yn 2015. Roedd y nofel hefyd ar restr hir Gwobr Kirkus 2014 yn yr Unol Daleithiau ac y Warwick Prize for Writing 2014.

Arddull ysgrifennu[golygu | golygu cod]

Mewn cyfweliad gyda Cynan Jones am The Dig, mae'r awdur yn sôn am "sbarduno adweithiau [yn y darllenydd], heb fod yn rhy syfrdanol."[6] Eglurodd hefyd ei ddefnydd o iaith fwy barddonol ar gyfer rhai cymeriadau er mwyn eu cadw nhw ar wahân neu yn "adlewyrchu" agwedd o'u cymeriad. Wrth ddefnyddio "alegorïau ffisegol a naturiol" i ddweud pethau am bobl, dylai'r darllenydd "ddeall y cyfeiriad yn reddfol."[6] Mae'n crybwyll ysgrifennu fel "Steinbeck, er enghraifft, gyda The Long Dry".[6]

Mewn cyfweliad arall, mae Jones yn mynd i'r afael yn y syniad bod yno yn "alegori naturiol yng nghraidd [ei lyfrau] sydd yn wirioneddol dweud wrth rywun am y sefyllfa ddynol".[7] Mae'n dweud am "ymddiried yn y darllenwyr" fel y gallwch wneud neu ddweud pethau a fydd yn "denu llygad y darllenydd" ac nid oes rhaid "adeiladu naratif" sydd yn debycach i "ysgrifennu drwy rifau".[7] Pan ofynnwyd iddo am "y trais a'r gorfelys" mae llawer o lenyddiaeth yn osgoi, dywed Jones ei fod yn ymddiried yn y darllenydd i gael dealltwriaeth o natur "cynhenid" sefyllfa a'r oll sydd rhaid iddo wneud yw "ei ysgrifennu i lawr mor glir ag y gallaf, a heb farn", yn fwy fel tyst na voyeur.[8]

Yn 2014, cafodd Jones sylw am beidio atalnodi rhan fwyaf o'r testun llafar yn ei nofel The Dig (ac ychydig o straeon byrion arall). Roedd lleferydd a syniadau ei gymeriadau wedi defnyddio dyfynodau nes i John Freeman, golygydd y cylchgrawn Granta, gymryd cyfle a dileu'r dyfynodau er mwyn bod "yn fwy uniongyrchol, fwy gyda hi". Cytunodd yr awdur am effaith y ddyfais anghonfensiynol hon a gorffennodd gweddill y llyfr yn y dull yma, ac eithrio un sgwrs rhwng y prif gymeriad a'i fam. Yn y darn hynny, defnyddiodd Jones ddyfynodau arferol "i greu ymdeimlad o ddeialog mwy confensiynol, digyffro." Roedd awduron fel Cormac McCarthy, James Joyce, a Samuel Beckett wedi arbrofi gyda'r un dull o hepgor atalnodi. Drwy wneud hyn, aeth Jones yn erbyn confensiwn sydd wedi bod yn arferol ers o leiaf ddiwedd y 18g.[9]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Cynan Jones - About. Cynan jones. Adalwyd ar 15 Rhagfyr 2016.
  2. "A Glass of Cold Water" (yn Saesneg).
  3.  Awdur o Geredigion yw Cymrawd Ysgrifennu newydd y Brifysgol (19 Hydref 2016). Adalwyd ar 15 Rhagfyr 2016.
  4. "Betty Trask Past Winners - Society of Authors - Protecting the rights and furthering the interests of authors" (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-07-22. Cyrchwyd 2016-12-15.
  5. "The Sunday Times EFG Short Story Award 2013" (yn Saesneg).
  6. 6.0 6.1 6.2 "An Interview with Cynan Jones - Wales Arts Review". Wales Arts Review (yn Saesneg). Cyrchwyd 2016-02-08.
  7. 7.0 7.1 Carroll, Tobias. ""Instinct and Keeping a Clear Eye": An Interview With Cynan Jones, Part 2". Vol. 1 Brooklyn. Cyrchwyd 2016-02-08.
  8. "Cynan Jones" (yn Saesneg).
  9. Lea, Richard. "Don't be scared: dialogue without quotation marks". Guardian News and Media. More than one of |last1= a |last= specified (help); More than one of |first1= a |first= specified (help)

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]