Neidio i'r cynnwys

Cofiant y Parchedig John Jones, Talsarn

Oddi ar Wicipedia
Cofiant y Parchedig John Jones, Talsarn
John Jones, Talsarn
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurOwen Thomas Edit this on Wikidata
CyhoeddwrHughes a'i Fab
GwladCymru
IaithCymraeg
Dyddiad cyhoeddi1874 Edit this on Wikidata
Genrecofiant Edit this on Wikidata

Mae Cofiant y Parchedig John Jones, Talsarn, gan Owen Thomas yn gofiant a gyhoeddwyd gan Argraffwasg Hughes a'i Fab, Wrecsam ym 1874.[1]

Cefndir[golygu | golygu cod]

Mae'r gyfrol yn adrodd hanes John Jones, Talysarn (1 Mawrth 1796 – 16 Awst 1857), un o bregethwr mwyaf amlwg y Methodistiaid Calfinaidd ei ddydd.[2]

Cynnwys[golygu | golygu cod]

Mae'r cofiant yn sôn am enedigaeth a magwraeth Jones yn Tanycastell, Dolwyddelan. Mae'r gyfrol yn sôn amdano fel bachgen ifanc crefyddol a rhoddodd gorau i'w ffydd i droi at wagedd y byd ond a chafodd tröedigaeth drachefn wedi gwrando ar Henry Rees yn pregethu yn Llansannan. Ceir hanes ei gyfnod yn gweithio fel labrwr yn adeiladu'r ffordd rhwng Capel Curig a Llyn Ogwen (yr A5 bellach) ac yn gweithio yn chwarel yn Nhalysarn. Gan nad oedd yn weinidog parhaol ar un capel arbennig mae llawer o benodau'r llyfr yn ymwneud a'i deithiau mynych o ambell Gymru a Lloegr i bregethu a lledaenu'r Efengyl. Mae'r llyfr hefyd yn ymdrin â phynciau llosg crefydd yn ei gyfnod megis yr anghytundeb rhwng y Methodistiaid Calfinaidd a'r Methodistiaid Wesleaidd (neu'r Arminiaid fel mae'r llyfr yn eu galw) a dadleuon mewnol yr enwad Calfinaidd. Ceir hefyd penodau ar gefndir hanes Methodistiaeth yng Nghymru.

Mae Cofiant John Jones, Talysarn yn llyfr swmpus efo 1052 o dudalennau. Mae copi digidol o'r llyfr ar gael i'w darllen yn di dal ar wefan Internet Archive.[3]

Penodau[golygu | golygu cod]

Mae'r gyfrol yn gynnwys y penodau canlynol:

  1. Bore ei Oes : 1796-1807
  2. Dyddiau ei Ieuenctid : 1807 — 1815.
  3. Ei Ymdaith yn y Wlad Bell : 1816—1819
  4. Pregethu hyd ei dderbyn i'r Cyfarfod Misol : 1821
  5. O’i dderbyniad i’r Cyfarfod Misol hyd ei Briodas : 1821 — 1823.
  6. O’i Briodas hyd ei dderbyniad yn Aelod o’r Gymdeithasfa : 1823 — 1824.
  7. O’i dderbyniad yn Aelod o’r Gymdeithasfa hyd ei Ordeiniad : 1824 — 1829.
  8. Ymroddiad i Lafur Gweinidogaethol Cyflawn : 1829 — 1838.
  9. Blynyddoedd dechreuad cyfnewidiad yn nodwedd ei Weinidogaeth : 1833—1840.
  10. Dadleuon Diwinyddol Cymru : 1707-1841.
    1. Rhan I. Dadleuon rhwng Calfiniaid ac Arminiaid : 1707 - 1881
    2. Rhan II. Dadleuon rhwng Calfiniaid a'i gilydd: 1811 - 1841.
    3. Rhan III. Dadleuon yng Nghorff y Methodistiaid : 1814 - 1841
  11. Blynyddoedd Cyflawnder ei Nerth : 1841—1849.
  12. Blynyddoedd ei Adolygiaeth ar Gloddfa Dorothea : 1850 — 1852.
  13. Blynyddoedd Diweddaf ei Einioes : 1853 1857.
  14. Ei Gystudd diweddaf a’i Farwolaeth : Mawrth— Awst, 1857
  15. Ei Gysylltiad â’r Weinidogaeth Gymreig, a’i Gymeriad fel Pregethwr.
    1. Rhan I. Byr olygiad ar y Pulpud Methodistaidd hyd ei ddyddiau ef.
    2. Rhan II. Ei Nodweddion neilltuol ef fel Pregethwr.
  16. Atodiad yn cynnwys diwygiadau ac ychwanegiadau
  17. Mynegai

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Thomas, Owen (1874). Cofiant John Jones Talsarn. Wrecsam: Hughes a'i Fab.
  2. "JONES, JOHN (1796 - 1857), pregethwr amlwg a grymus neilltuol, a gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2019-11-28.
  3. "Internet Archive: Digital Library of Free & Borrowable Books, Movies, Music & Wayback Machine". archive.org. Cyrchwyd 2019-11-27.