Cilâ Uchaf
Gwedd
Math | cymuned, pentref |
---|---|
Poblogaeth | 1,331 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Abertawe |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 525.71 ha |
Cyfesurynnau | 51.6133°N 4.0381°W |
Cod SYG | W04000979 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Julie James (Llafur) |
AS/au | Geraint Davies (Llafur) |
Pentref a chymuned ym mwrdeisdref sirol Abertawe yw Cilâ Uchaf (Saesneg: Upper Killay). Saif i'r gorllewin o ddinas Abertawe, ar lechweddau gorllewinol Dyffryn Clun. Prif ganolfan y gymuned yw pentref Cilâ Uchaf. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 1,308.
Ar un adeg roedd gwaith glo yma, a rhedai Rheilffordd Canol Cymru trwy'r gymuned. Mae trac y rheilffordd yn awr yn ffurfio Llwybr Beicio Abertawe.
Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Julie James (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Geraint Davies (Llafur).[1][2]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
- ↑ Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014