Brwydr y Somme 1916
Gwedd
![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | brwydr ![]() |
---|---|
Dyddiad | 18 Tachwedd 1916 ![]() |
Rhan o | Ffrynt y Gorllewin, y Rhyfel Byd Cyntaf ![]() |
Dechreuwyd | 1 Gorffennaf 1916 ![]() |
Daeth i ben | 17 Tachwedd 1916 ![]() |
Lleoliad | Afon Somme ![]() |
![]() | |
Gwladwriaeth | Ffrainc ![]() |
![]() |
![](http://chped.net/https/upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/f/fa/Cheshire_Regiment_trench_Somme_1916.jpg/250px-Cheshire_Regiment_trench_Somme_1916.jpg)
Un o frwydrau mwyaf y Rhyfel Byd Cyntaf oedd Brwydr y Somme pan laddwyd neu anafwyd mwy na miliwn a hanner o filwyr. Ymladdwyd y frwydr rhwng Gorffennaf a Thachwedd 1916. Ceisiodd y Cyngheiriaid, unedau Prydeinig yn bennaf ond gyda rhai Ffrengig, dorri trwy'r llinellau Almaenig ar hyd ffrynt 12 milltir (19 km) o hyd i'r gogledd a'r de o Afon Somme yng ngogledd Ffrainc.
Cofir y frwydr yn bennaf am ei diwrnod cyntaf, 1 Gorffennaf 1916, pan gollodd y fyddin Brydeinig 67,470 o filwyr, 19,240 wedi eu lladd; y nifer uchaf yn ei hanes.
Amcan y frwydr oedd i ddenu lluoedd yr Almaen oddi ar Frwydr Verdun ond mewn gwirionedd collwyd mwy ar y Somme nag yn Verdun.
Gweler hefyd[golygu | golygu cod]