Baner Benin
![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | baner cenedlaethol ![]() |
---|---|
Lliw/iau | gwyrdd, melyn, coch ![]() |
Dechrau/Sefydlu | 16 Tachwedd 1959 ![]() |
Genre | Pan-African flag ![]() |
Rhagflaenydd | Baner Ffrainc, flag of the People's Republic of Benin ![]() |
Olynydd | flag of the People's Republic of Benin ![]() |
![]() |
![](http://chped.net/https/upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/0/0a/Flag_of_Benin.svg/250px-Flag_of_Benin.svg.png)
![](http://chped.net/https/upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/6/68/FIAV_111111.svg/23px-FIAV_111111.svg.png)
![](http://chped.net/https/upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/a/af/Flag_of_Benin_%281975%E2%80%931990%29.svg/220px-Flag_of_Benin_%281975%E2%80%931990%29.svg.png)
Baner ddeuliw lorweddol gyda stribed uwch melyn a stribed is coch gyda stribed fertigol gwyrdd yn yr hoist yw baner Benin. Lliwiau pan-Affricanaidd yw coch, melyn, a gwyrdd, ac maent yn symboleiddio undod a chenedlaetholdeb Affricanaidd. Mabwysiadwyd yn gyntaf ar 16 Tachwedd, 1959, yn ystod y cyfnod rhwng ennill ymreolaeth yn 1958 ac ennill annibyniaeth lwyr ar Ffrainc yn 1960; enw'r wlad ar y pryd oedd Gweriniaeth Dahomey. Yn dilyn chwyldro sosialaidd yn Rhagfyr 1975, newidodd enw'r wlad i Weriniaeth Pobl Benin a chafodd faner werdd gyda seren goch yn y canton ei defnyddio. Dechreuodd drawsnewidiad i ddemocratiaeth yn y 1980au hwyr a 1990au cynnar: newidiwyd enw'r wlad i Weriniaeth Benin a chafodd y faner wreiddiol ei hadfer yn 1990.
Seiliwyd lliwiau'r faner ar liwiau baner Ethiopia a ddaeth yn liwiau'r mudiad Pan-Affricanaidd dros fudiadau annibyniaeth i bobloedd ddu y cyfandir, a thu hwnt.
Ffynonellau[golygu | golygu cod]
- Complete Flags of the World, Dorling Kindersley (2002)