B
Gwedd
![](http://chped.net/https/upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/b/b0/Latin_alphabet_Bb.svg/220px-Latin_alphabet_Bb.svg.png)
Ail lythyren yr wyddor Ladin a'r wyddor Gymraeg yw B. Mewn nifer o ieithoedd mae'r llythyren hon yn cael ei defnyddio i ddynodi'r ffrwydrolyn dwywefusol lleisiol /b/.
Yn y Gymraeg mae b yn cael ei heffeithio gan dreigladau meddal a thrwynol, yn ogystal â bod yn ffurf dreigledig ar y llythyren p.
Treigladau[golygu | golygu cod]
- Meddal - Try b /b/ yn f /v/ yn ôl treiglad meddal: Bangor → i Fangor
- B yw ffurf p /p/ wedi'i treiglo'n feddal: pioden → y bioden
- Trwynol - Try b yn m /m/ yn ôl treiglad trwynol: bol → ym mol