Neidio i'r cynnwys

Ar Rutbah

Oddi ar Wicipedia
Ar Rutbah
Mathdinas Edit this on Wikidata
Poblogaeth27,879 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirAr Rutba District, Al Anbar Edit this on Wikidata
GwladBaner Irac Irac
Cyfesurynnau33.03°N 40.28°E, 33.0372°N 40.2858°E Edit this on Wikidata
Map

Mae Ar Rutbah (Arabeg:الرطبة, hefyd Rutba, Rutbah, neu Ar Rutba) yn dref fechan yng ngorllewin Irac sy'n gorwedd yn nhalaith Al Anbar. Mae'n gorwedd ar lwyfandir uchel. Mae ganddi boblogaeth o tua 25,000.

Fe'i lleolir mewn man strategol ar y briffordd Amman-Baghdad, a'r bibell olew Mosul-Haifa. Mae priffordd draws-anialwch arall yn ei cyhysylltu â Damascus. Er ei bod ar ymyl Diffeithwch Syria, ystyrir y dref yn "fan gwlyb" yn y rhan yma o'r byd, gan dderbyn 114.3 mm (4.5 modfedd) y flwyddyn. Fel yn achos gweddill talaith Al Anbar, mae'r rhan fwyaf o'r trigolion yn Fwslemiaid Sunni.

Ers i'r Unol Daleithiau oresgyn Irac yn 2003, mae'r dref yn gartref i garsiwn Americanaidd sylweddol.

Eginyn erthygl sydd uchod am Irac. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.