Lesbiaeth
![](http://chped.net/https/upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/9/90/Arcilesbica_-_Striscione_al_Gay_Pride_nazionale_di_Grosseto_%282004%29.jpg/180px-Arcilesbica_-_Striscione_al_Gay_Pride_nazionale_di_Grosseto_%282004%29.jpg)
Mae "lesbiad", "lesbiaid" (lluosog) a "lesbiaidd" yn ail-gyfeirio i'r dudalen hon. Efallai eich bod yn chwilio am Lesbos.
Term sy'n disgrifio cyfunrywioldeb rhwng menywod yw lesbiaeth.
Tarddiad enw[golygu | golygu cod]
Mae'r term lesbiaeth yn deillio o enw'r ynys Groegaidd Lesbos (neu Lesvos), cartref y bardd Sappho. Roedd ei barddoniaeth yn boblogaidd iawn yn y cyfnod clasurol. Collwyd llawer ohono, ond mae rhywfaint wedi goroesi. Pwnc y rhan fwyaf o'r farddoniaeth yw cariad, ac mae'n amlygu atyniad rhywiol at ferched yn ogystal â dynion. Daw'r defnydd o Lesbiaeth yn yr ystyr yma o enw ynys Lesvos, fel man geni Sappho.
![](http://chped.net/https/upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/6/6c/Sappho_and_Erinna_in_a_Garden_at_Mytilene.jpg/220px-Sappho_and_Erinna_in_a_Garden_at_Mytilene.jpg)
Hanes[golygu | golygu cod]
Cysyniad diweddar yw lesbiaeth sy'n perthyn i'r 20g. Yn wahanol i hoywon, roedd yr arfer o ddwy ferch yn caru ei gilydd yn llawer mwy normal. Oherwydd hyn, does na ddim llawer o gofnodion ar gael, ar wahan i waith Clasurol. Am gyfnod yn y 19g, roedd y lesbian yn cael ei gweld fel person gyda phroblem meddyliol gan ffisegwyr a seicolegwyr fel Havelock Ellis.
![](http://chped.net/https/upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/4/48/Gay_Pride_Flag.svg/40px-Gay_Pride_Flag.svg.png)