An t-Sàilean
![]() | |
Math | pentref ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Argyll a Bute ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 56.5167°N 5.9475°W ![]() |
![]() | |
Mae An t-Sàilean (Saesneg: Salen) yn bentref at ynys Muile, Yr Alban. Mae gan y pentref swyddfa’r post, ysgol gynradd, eglwys ac archfarchnad.[1]
![](http://chped.net/https/upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/e/ed/Salen01LB.jpg/260px-Salen01LB.jpg)
Hanes[golygu | golygu cod]
Dywedir bod Sant Columba wedi pregethu yn An t-Sàilean yn ystod yr 500au hwyr. Mae Castell Aros dwy filltir i’r gogledd o’r pentref ac mae Capel Pennygown dwy filltir i’r dwyrain. Yn ystod y 1800au cynnar, penderfynodd Lachlan MacQuarie sefydlu’r pentref a harbwr ar yr arfordir ger ei stad. Daeth MacQuarie yn Llywodraethwr De Cymru Newydd, Awstralia ac mae ei fedd ym Meddrod MacQuarie dwy filltir i’r de-orllewin o’r pentref.[2]
Trafnidiaeth[golygu | golygu cod]
Hyd at 1964, roedd y fferi o Oban i Tobar Mhoire, yn ymweld â An t-Sàilean. Ond daeth fferiau’n rhy fawr, a sefydlwyd Craignure. Mae dau hen bier y pentref yn adfeilion bellach, ond mae pier newydd erbyn hyn. Mae maes awyr Glenforsa ar laswellt, ac roedd gwasanaeth o Glasgow hyd at 1980. Defnyddir Glenforsa gan awyrennau ysgafn yn unig erbyn hyn. Mae Gwesty Glenforsa ger y maes awyr.[3]